641 Ar ddydd ein bedydd gwnaethpwyd ni
R. Glyndwr Williams, Traddodiadol
Ar ddydd ein bedydd gwnaethpwyd ni
yn rhan o deulu dinas Duw;
croesawyd ni i gorlan Crist,
ac ef yw'n Bugail da a’n llyw.
Ar ddydd ein bedydd galwyd n1
yn blant y Tad a’i gariad ef,
aelodau byw am byth i Grist
ac etifeddion teyrnas nef.
Ar ddydd ein bedydd rhwymwyd n1
i gefnu ar bob drwg a chas,
i gredu yn y Drindod 1an
a dilyn llwybrau union gras.
Ar ddydd ein bedydd enwyd ni
a rhoddwyd arnom lun y groes;
o dan ei faner milwyr ým
dros deyrnas Iesu ddyddiau’n hoes.
Ar ddydd ein bedydd golchwyd ni
o’r pechod oesol sydd mewn dyn,
ac impiwyd ni mewn gobaith gwir
ym mywyd newydd Crist ei hun.
Ar ddydd ein bedydd plannwyd ni
yn nyffryn teg y dyfroedd byw:
boed inni dyfu yno’n ir
a ffrwytho’n bér er clod i Dduw.